Gweithdy Celf i’r teulu gyda Catrin Williams

Storiel

When

1 Tachwedd 2024    
2:00 pm - 4:00 pm

Where

Storiel
Ffordd Gwynedd, Bangor, LL57 1DT
Loading Map....

Gweithdy llawn lliw a dychymyg gyda’r arlunydd Catrin Williams, gan ymateb i’w harddangosfa newydd yn Storiel.

Ar gyfer y tuelu oll, ond yn arbennig ar gyfer plant 5-11oed, dyma sesiwn hwyliog gyda’r artist Catrin Williams i ddysgu sgiliau newydd mewn llyfr braslunio. Byddwn yn cychwyn wrth arsylwi delweddau bywyd llonydd cyn edrych ar ddelweddau lliwgar llawn hwyl, gan ddefnyddio llinell a marciau creadiol, ac wedyn yn datblygu’r delweddau hyn yn hyderus i baentiad neu brint o ddewis y plentyn.

Bydd adnoddau celf yn cael eu paratoi.

Archebwch eich lle trwy Eventbrite yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/gweithdy-parti-arlunio-catrin-williams-arts-party-workshop-tickets-964767424337?aff=ebdssbdestsearch