Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru
Ydych chi’n barod?
I’w chychwyn o hanner tymor yr Hydref.
Dyma ffordd wych o ymweld â nifer o amgueddfeydd gwych Cymru – ac yn gyfle i ennill gwobr arbennig!
Gallwch gasglu pasbort o unrhyw un o’r amgueddfeydd sy’n rhan o’r her.
Sut i gymryd rhan?
- Casgla dy basbort o unrhyw amgueddfa isod gan gofio i ofyn am stamp!
- Cei di gyfle i ennill pecyn creu cuddfan wrth ymweld ag UN amgueddfa erbyn diwedd hanner tymor yr Hydref (dydd Sul 3 Tachwedd).
- Cei di gyfle ennill sgwter micro wrth gadw’r pasbort ag ymweld â CHWE amgueddfa erbyn diwedd gwyliau’r Pasg (dydd Sul 27 Ebrill 2025).
- Llenwa’r ffurflen yn y linc i nodi dy lwyddiant ar ôl mynychu un amgueddfa, ac yna ar ôl mynychu chwe amgueddfa: XX LINC YN FYW AR 26 HYDREFXX
Pob lwc!
#LlwybrauHanesCymru
Gogledd Cymru
Mae'r amgueddfa a'r oriel gelf afaelgar hon yn adrodd hanes a thraddodiadau cyfoethog Ynys Môn, ac yn gartref i gasgliad Charles Tunnicliffe gydag Oriel Kyffin yn cynnig arddangosfeydd o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol.
Dewch i ddarganfod hanes y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig sydd mewn bodolaeth ers dros 300 mlynedd a chael gwybod am Hedd Wyn, un o feirdd enwocaf Cymru a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn adnodd addysgu sy’n rhan o Brifysgol Bangor, mae'r amgueddfa ddiddorol hon yn cadw ac yn arddangos sgerbydau, penglogau, tacsidermi, cyrn ceirw, wyau a chreaduriaid mewn jariau.
Mae casgliad Storiel yn cynnwys bron i 10,000 o eitemau sy’n olrhain hanes Cymru gan gynnwys dodrefn, tecstilau, archaeoleg, cerameg, ffotograffiaeth a hanes cymdeithasol fel y Welsh Not.
Yma cewch fwynhau casgliad o fwy na mil o wrthrychau a ffotograffau archif sy'n dangos bywyd yn y dref Gymreig hon o’r Oes Neolithig hyd at heddiw.
Yma cewch hanes Syr Henry Jones, crydd o Langernyw a ddaeth yn Athro Athroniaeth Foesol ym Mhrifysgol Glasgow ac a wnaeth lawer dros addysg yng Nghymru.
Ewch i'r Amgueddfa i ddysgu mwy am ein hanes anhygoel – 800 mlynedd o dreftadaeth i'w darganfod. Dysgwch am amaethyddiaeth, hanes cymdeithasol a diwydiannol.
Dewch i ddarganfod hanes bywyd Sir y Fflint ar hyd y canrifoedd a gweld darnau o fantell aur wreiddiol a ddarganfuwyd yma yn ystod yr Oes Efydd.
Galwch draw i’r Ganolfan gelf a threftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol hyn, sy’n cyfuno celf gan arlunwyr o Gymru, natur a diwylliant trwy ystod o weithgareddau a gofodau i chi eu harchwilio.
Yma ceir hanes datblygu tref Porthmadog yn yr 1820au, yn ganolfan adeiladu cychod ac allforio llechi.
Gorllewin Cymru a'r Canolbarth
O hanes hela morfilod, pysgota ac adeiladu cychod y dref, i drawsnewidiad Aberdaugleddau yn borthladd diwydiannol ffyniannus; mae'r amgueddfa hon yn mynd â chi ar daith drwy'r oesoedd, gan ddod â hanes lleol yn fyw.
Doc Penfro oedd gorsaf cychod hedfan fwya’r Ail Ryfel Byd a dyma ble’r adeiladwyd llong ofod o Star Wars y Millennium Falcon, sydd i’w gweld yn y ffilm arobryn enwog The Empire Strikes Back.
Amgueddfa ryngweithiol yn rhannu hanes lleol ac oriel gelf ryfeddol yn cynnwys gwaith artistiaid adnabyddus Cymru, fel Gwen John, Kyffin Williams a llawer mwy.
Dewch i ymweld â’r tŷ ble bu Dylan Thomas a’i deulu yn byw o 1949, ac i weld y sied enwog ble bu’n ysgrifennu Dan y Wenallt (Under Milk Wood).
Cyfle i ddysgu am Feddygon Myddfai, y doctoriaid enwocaf o Gymru o bosib, ac i weld y carreg y Gilfachwen - triniaeth y cyfnod ar gyfer y gynddaredd.
Dewch i ddysgu am y diwydiant enfawr a gynhyrchodd ddillad gwlân, siolau a blancedi a werthwyd ledled Cymru a'r byd.
Mae'r Amgueddfa'n gartref i gasgliadau parhaol a rhai dros dro sy'n archwilio treftadaeth, diwylliant a chelfyddyd Ceredigion.
Yn rhodd i bobl Llanelli gan Foneddiges Howard Stepney yn 1912, mae Parc Howard nawr yn amgueddfa i’r teulu oll sy’n fwrlwm o greadigrwydd a chymuned.
Dewch i ddarganfod arteffact hynafol Aifft o Pharo, o'r enw Shabti. Roedd y Shabti yn rhan o gasgliad Henry Vivian, Barwn cyntaf Abertawe.
Mae'n 110 mlynedd ers geni Dylan Thomas ym 1914, a 150 mlynedd ers creu Parc Cwmdoncyn (”byd o fewn byd.." Dylan.)
Darganfyddwch gasgliad celf cyfan Richard Glynn Vivian, gan gynnwys darnau o bob rhan o’r byd, a adawyd yn ei ewyllys ‘er mwynhad pobl Abertawe’.
Mae’r arddangosfa ddifyr hon yn dathlu bywyd a gwaith y bardd adnabyddus Dylan Thomas.
Dewch i glywed hanes diwydiant ac arloesedd yng Nghymru, gan gynnwys y daith reilffordd gyntaf erioed yn y byd o’r gwaith haearn ym Mhenydarren i Gamlas Merthyr-Caerdydd.
Wedi'i naddu o un boncyff derw ac yn gysylltiedig â chrannog Llan-gors - preswylfa frenhinol yn ystod Teyrnas Brycheiniog, darganfuwyd y bad boncyff prin sydd yn Y Gaer yn 1925 ar waelod Llyn Llan-gors.
De Cymru
Ym mis Chwefror 1983, cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y byddai Glofa Lewis Merthyr yn cau, gan sbarduno 28 o lowyr i gynnal streic am bum mis, tra bod menywod lleol yn eu cynnal â brechdanau. Cynhaliwyd streic genedlaethol y glowyr yn fuan wedi hynny, rhwng 1984 a 1985.
Wedi'i hagor ym 1986 yn hen Gapel Bedyddwyr Cymraeg y Tabernacl, mae'r Amgueddfa hon yn adrodd hanes ardal a drawsnewidiwyd, o gymuned dawel y Cymoedd i dref ddiwydiannol ffyniannus yng nghanol maes glo De Cymru.
Dewch i ddarganfod ble cynhyrchwyd porslen gorau'r byd unwaith a chael eich tywys o amgylch y safle gan un o'n gwirfoddolwyr croesawgar. Cewch gyfarfod rhai crochenyddion, cael cyfle i brynu cynnyrch unigryw, ac aros am de!
Mae’r amgueddfa awyr agored hon yn olrhain bywyd hanesyddol, diwylliant a phensaernïaeth y Cymry.
Gyda gweithgareddau a chyfle i wisgo i fyny, arddangosfeydd a digwyddiadau addysgiadol, mae Amgueddfa’r Milwr Cymreig yn dathlu'r milwr Cymreig dros gyfnod o 300 mlynedd.
O Oriel Esblygiad Cymru a gweithiau celf gan Botticelli a Rembrandt, i arddangosfeydd arbennig megis un sy’n adrodd hanes streic y glowyr yn 1984; mae digon i’w weld yma.
Yma gallwch ddysgu am ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru gyda chasgliad yr amgueddfa o lestri Japaneaidd addurnedig hyfryd.
Lleoliad gwych i ddysgu mwy am hanes yr ardal, gan gynnwys cloddio glo, cynhyrchu haearn, Arglwyddes Llanofer a hanes Rhufeinig yng Nghymru.
Adeiladwyd y Neuadd Sirol ym 1724, ac mae’n fwyaf enwog am achos 1839/40 yr arweinydd Siartaidd John Frost ac eraill am uchel fradwriaeth yn ystod Gwrthryfel Casnewydd.
Camwch yn ôl mewn amser i ddarganfod hanes masnachu Cas-gwent, gan gynnwys cyflwyno Siarter y Dref ym 1524 – 500 mlynedd yn ôl!
Telerau ac Amodau'r Gystadleuaeth
1. Mae’r holl gystadleuaeth yn dechrau ar ddydd Sadwrn 26 Hydref 2024 ac yn gorffen ar ddydd Sul 27 Ebrill 2025.
2. Cynhelir dwy raffl:
- Mynychu un amgueddfa yn ystod hanner tymor yr Hydref – dydd Mawrth 5 Tachwedd 2024.
- Mynychu chwe amgueddfa erbyn 27 Ebrill 2025 – dydd Mercher 30 Ebrill 2025.
3. Ni roddir arian parod cyfwerth â’r wobr.
4. Nid yw pobl sy’n gweithio’n uniongyrchol ar Ŵyl Amgueddfeydd Cymru, aelodau o’u teulu agos, a / neu bobl sy’n byw yn yr un cartref yn gymwys i gymryd rhan.
5. Un tro i bob ymgeisydd.