When
Event Type
Ymunwch â ni am weithgaredd creadigol ymarferol yn gwneud cwils, dysgu sut i wneud memrwn wedi’i heneiddio a defnyddio’r ddau i greu swyn bwganllyd hudol! Bydd cerddi Dylan Thomas am yr hydref yn ein hysbrydoli hefyd.
Defnyddir deunyddiau wedi’u hailgylchu, eu hailbwrpasu ac sy’n amgylcheddol gynaliadwy yn ein holl weithdai. Byddwn yn defnyddio plu wedi’u gollwng yn naturiol i wneud y cwils y mae ein ffrindiau yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli wedi bod yn ddigon caredig i’w casglu ar ein cyfer.
Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.
Mae lle i 35 o bobl yn ein man gwithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w harchwilio yn ein harddangosfa.
Hwyl i deuluoedd â phlant o bob oedran.
www.dylanthomas.com
Galw heibio, am ddim