Mis i Fynd!

27 Medi 2024 |

Gyda llai na mis i fynd tan Gŵyl Amgueddfeydd Cymru 2024, mae’n amser i chi ddechrau cynllunio eich ymweliad! Bydd amgueddfeydd ledled y wlad yn gynnig wythnos lawn dop o weithgareddau rhad ac am ddim yr hanner tymor hwn.

Sbort a Sbri Calan Gaeaf yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru

Os ydych chi’n gwirioni ar hanes, yn dotio ar hanesion Calan Gaeaf, neu’n chwilio am brofiad arbennig ar gyfer wythnos hanner tymor, mae’r Ŵyl hon yn cynnig rhywbeth i bawb. Gyda llai na mis i fynd, dyma’r amser perffaith i gael cip ar wefan yr ŵyl a pharatoi Llwybr Hanes Cymru eich hun! 

Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru, be gall ymwelwyr ifanc ymweld â dim ond un amgueddfa i fod â chyfle i ennill gwobr megis pecyn creu cuddfan, neu chwe amgueddfa cyn diwedd Mawrth 2025 i fod â chyfle i ennill sgwter newydd sbon! 

Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu oll yn cael eu cynnal, gan gynnwys helfa Calan Gaeaf, gweithdai celf, sesiynau stori, dramau hanesyddol a dathliadau diwylliannol. Bydd nifer o amgueddfeydd yn cynnig Llyfryn Calan Gaeaf am ddim i fynd adref gyda chi, sy’n cynnwys hanesion am Galan Gaeaf y Cymry, megis yr Hwch Ddu Gwta, a lanterni meipen

Ewch i godi’r llen ar hanes Cymru yr hanner tymor hwn

Ewch draw i’r dudalen Amgueddfeydd sy’n Cymryd Rhan i weld pa rai o’ch amgueddfeydd lleol sy’n rhan o’r Ŵyl eleni. Cyn cael golwg ar ein tudalen Digwyddiadau er mwyn dechrau cynllunio hwyl eich hanner tymor gyda Gŵyl Amgueddfeydd Cymru.