Mae’r Her Pasbort yn parhau! Syniadau gweithgareddau am ddim ar gyfer Llwybr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

5 Tachwedd 2023 |
Dyma ran o Daith Campwaith yr Oriel Genedlaethol sy’n ymweld â Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn 2023-2024

Er heddiw yw diwrnod olaf ein Gŵyl ar gyfer 2023, mae yna dal digonedd o weithgareddau, casgliadau ac arddangosfeydd gwych i’w harchwilio fel rhan o’n Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru newydd sbon. Ewch i chwe amgueddfa – sydd yn cymryd rhan yn yr her – erbyn 14 Ebrill 2024 a bod â chyfle i ennill Clustffonau Canslo Sn, Diwifr, Tros Glust, Bluetooth Beats Studio 3 a thocynnau teulu un-diwrnod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

Dyma ni’n tynnu sylw at yr hyn mae rhai o’r amgueddfeydd sy’n cymryd rhan yn cynnig ar draws Gorllewin a Chanolbarth Cymru dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf – i gyd am ddim i blant, gyda’r rhan fwyaf hefyd am ddim i oedolion!

Gorllewin Cymru

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Mae eitem arbennig iawn yn eich disgwyl yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, lle gallwch weld Tobias a’r Angel, (1470-75), paentiad allor gan Weithdy Andrea del Verrocchio. Hyfforddodd Andrea del Verrocchio arlunwyr yn ei weithdy, gan gynnwys Leonardo da Vinci ac mae yna awgrym iddo beintio rhannau o’r gwaith yma. Mae’r darlun yn rhan o Daith Campwaith yr Oriel Genedlaethol a gellir ei weld yn yr amgueddfa am ddim hyd at 2024.

Canolfan Dylan Thomas

Oeddech chi’n gwybod bod Dylan Thomas wedi ysgrifennu llawer iawn am wahanol anifeiliaid ac adar yn ei farddoniaeth? Mae’r llwybr rhad ac am ddim hwn – Llwybrau Anifeiliaid Dylan – yn cynnig cyfle i blant ddysgu am ei farddoniaeth. Gallwch godi taflen llwybr am ddim wrth y ddesg flaen a gweld anifeiliaid ac adar ar hyd a lled yr arddangosfa.

Y Ganolfan Eifftaidd

Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn amgueddfa fach ond bywiog o hynafiaethau Eifftaidd. Mae mynediad am ddim ac mae dros 5000 o eitemau yn y casgliad. Casglwyd y rhan fwyaf ohonynt gan y fferyllydd Syr Henry Wellcome. Daw eraill o’r Amgueddfa Brydeinig; Amgueddfa Frenhinol Caeredin; Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru Caerdydd; Amgueddfa ac Oriel Gelf Frenhinol Albert, ymhlith eraill.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Hyd at ddiwedd Chwefror 2024, gallwch ddarganfod yr hanes hynod ddiddorol y tu ôl i reilffyrdd Cymru yn arddangosfa ‘Rheilffyrdd Unedig’. Yn rhad ac am ddim, mae’n arddangos yr amrywiaeth o reilffyrdd lleol a fodolai ledled Cymru cyn 1923 a sut y maent yn cael eu hailddefnyddio fel llwybrau beicio a cherdded.

Amgueddfa Wlân Cymru

 
 

Roedd pentref prydferth Dre-fach Felindre sydd yng nghanol harddwch Dyffryn Teifi yn ganolfan lewyrchus i’r diwydiant gwlân ac yn cael ei alw’n ‘Huddersfield Cymru’. Darganfyddwch stori anhygoel diwydiant gwlân Cymru am ddim!

Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod

Mae pob plentyn yn cael mynediad am ddim (pan yng nghwmni oedolyn) i’r amgueddfa yma, sydd â arddangosfa gelf barhaol yn cynnwys gwaith gan y brawd a chwaer Gwen ac Augustus John. Treuliasant eu plentyndod yn Ninbych-y-pysgod, ac mae’r oriel yn cynnwys dau waith cynnar iawn gan Gwen, gan gynnwys un o Ddinbych-y-pysgod. Erbyn i Augustus fod yn 25 oed, ef oedd arlunydd enwocaf Prydain yn ei ddydd. Bydd Tate Britain yn cynnal arddangosfa fawr gyntaf o waith y brawd a chawer o fis Medi 2024.

CARAD Rhaeadr

Mae’r amgueddfa gymunedol yn cynnal cyfres o ‘Crafteroons’ eleni – bob dydd Mawrth rhwng 2-4pm. Ar sail y cyntaf i’r felin, ac yn agored i bobl 11 oed a hŷn, maent yn cynnig gweithgareddau crefft rhad ac am ddim, gan gynnwys brodwaith, gwehyddu helyg, crefftau Nadolig gan gynnwys crefft siwgr, creu cardiau a gwneud torchau. Bydd y sesiynau â lluniaeth a does dim archebu o flaen llaw.

Amgueddfa Ceredigion

Camwch drwy ddrysau Amgueddfa Ceredigion, a leolir yn Theatr y Coliseum Edwardaidd trillawr yn Aberystwyth, a rhyfeddwch at y casgliad o dros 60,000 o eitemau sy’n arddangos treftadaeth amrywiol sir Ceredigion.

Y Gaer

Yn Aberhonddu, gallwch ymweld â’r Gaer sy’n cynnwys Brawdlys wedi’i hadnewyddu, ystafell ddosbarth oes Fictoria, oriel grefftau, oriel gelf a man arddangos dros dro. Mae yna hefyd ddwy oriel hanes cymdeithasol sy’n olrhain hanes Sir Frycheiniog.

Y Lanfa 

Galwch draw i’r Trallwng i ymweld â’r Lanfa, sydd ag amrywiaeth o eitemau diddorol – o gasgliad mawr o ffasiynau Laura Ashley o’r 1960au cynnar i’r 1990au i fodel o gilotîn wedi’i gerfio o esgyrn cig dafad gan garcharorion Ffrengig yn Y Trallwng yn ystod Rhyfeloedd Napoleon.

MOMA Machynlleth

Rhwng 11 Tachwedd a diwedd Ionawr 2024, gallwch weld gwaith celf Guto Morgan yn ei arddangosfa Tir yn MOMA Machynlleth. Yn ei sioe gyntaf, mae Morgan yn cyflwyno cyfres o ddarluniaiu sy’n archwilio tirwedd atgofus Ystrad Meurig.