Hwyl Hanner Tymor yn Chwefror gyda Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru

14 Chwefror 2025 |

Wrth i Hanner Tymor fis Chwefror agosáu, mae rhieni’n aml yn chwilio am weithgareddau difyr ac addysgol i ddiddanu eu plant. Un opsiwn gwych yw’r Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru, sy’n cynnig cyfle i deuluoedd ymchwilio i dreftadaeth gyfoethog Cymru wrth fwynhau gwibdeithiau byth cofiadwy.

Enillwch Micro Scooter!

Mae gan ein Her wobrau! Ym mis Tachwedd, enillodd Sophia (9 oed) ac Oscar (6 oed), o Milton Keynes y Pecyn Creu Cuddfan. Roedd angen iddynt fynd i UN amgueddfa yn ystod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, ond yn y diwedd aethant i dair i gyd: ym Mhontypridd, Cas-gwent a Sain Ffagan! Llongyfarchiadau iddynt!

Ond mae dal digonedd o amser ar ôl i gymryd rhan a mynd adref â’r wobr fawr, sef Micro Scooter! Casglwch eich stampiau o chwe amgueddfa erbyn 27 Ebrill i fod â chyfle i ennill.

Sut i gymryd rhan

  1. Casglwch eich pasbort: Ar gael mewn unrhyw amgueddfa sy’n cymryd rhan.
  2. Ymweld ac Archwilio: Derbyn stamp fel rhan o bob ymweliad.
  3. Cymerwch ran: Ar ôl casglu chwe stamp, cyflwynwch eich cais ar-lein.

Cofiwch i weld beth sydd ar gael yn eich amgueddfa leol! Yn Chwerfror, ry’n ni’n hoffi:

Amgueddfeydd Sir Fynwy – mae Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent yn cynnal crefftau galw heibio ar thema fel llwyau caru a dreigiau.

Oriel Plas Glyn-y-Weddw – dros hanner tumor, mae’r Oriel yn dangos printiau Cymreig, gan artistiaid sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o bynciau, arddulliau a chyfryngau. Gallwch gymryd rhan mewn digwyddiadau amrywiol, gan gynnwys sesiynau creadigol i ddathlu argraffu.

Amgueddfeydd CofGâr – Mae gan deulu pum amgueddfa Sir Gaerfyrddin amrywiaeth o grefftau a phosau yr hanner tymor hwn.

Teulu Amgueddfa Cymru – Mae’r saith amgueddfa (heblaw Amgueddfa Lechi Genedlaethol, sydd ar gau dros dro) â rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys arddangosfa Ffosiliau o’r Gors yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan gynnwys y Stigmaria 3D anferth sy’n ganolbwynt yr arddangosfa, o’r drysorfa fyd-enwog yn Brymbo, ger Wrecsam.

Tips Trefnu:

  • Gwirio oriau amgueddfa: Cyn ymweld, cadarnhewch amseroedd agor pob amgueddfa i sicrhau profiad pleserus.
  • Gwiriwch y manylion archebu: gan gofio poblogrwydd digwyddiadau hanner tymor, mae’n syniad da gwirio a oes angen i chi archebu tocynnau.

Gall teuluoedd greu atgofion melys gyda’i gilydd wrth gychwyn ar yr Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru neu wrth fwynhau digwyddiadau amgueddfeydd ar hyd a lled Cymru.

#LlwybrauHanesCymru