Hopian i mewn i Hanes: Anturiaethau Ardderchog Dros y Pasg, Ledled Cymru

11 Ebrill 2025 |
Merch yn paentio 
Girl painting

Gydag ychydig dros bythefnos i fynd nes i Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru ddod i ben ar 27 Ebrill, dyma ganllaw funud olaf i gynllunio eich anturiaethau dros wyliau’r Pasg! Ewch i chwe amgueddfa, sydd wedi ymuno â’r her, a gallwch gymryd rhan mewn raffl wobrwyo i ennill sgwter newydd sbon – y wobr berffaith am eich ymdrechion hanesyddol! 

Angen syniadau? Dyma’r wybodaeth allweddol! 

Y Pasg hwn, mae amgueddfeydd ledled Cymru yn cynnal gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd, o grefftau palod a phartïon gwyddoniaeth i hen farchnadoedd a llwybrau siocled. P’un a ydych chi yn y Gogledd, yn y Canolbarth neu yn Ne Cymru, mae pob ymweliad yn dod â chi’n agosach at eich chwe stamp… gan wibian i ffwrdd fel enillydd.

Gogledd Cymru: Creadigrwydd, Dihangfa a Helfeydd Wyau

Yn Ynys Môn, mae Oriel Môn yn gwahodd artistiaid ifanc i greu eu portreadau anifeiliaid 3D eu hunain a chyfle i gymysgu dychymyg a hwyl ymarferol. Draw ym Mangor, mae Storiel yn cynnig arddangosfa “Tu Hwnt i’r Ffin” sy’n darganfod sut daethpwyd â phlanhigion gardd i Gymru o bedwar ban byd, a’r niwed sy’n gallu cael ei achosi i fyd natur hyd heddiw wrth iddyn nhw ddianc o erddi. 

Mae Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn cynnal Llwybr Wyau Pasg ar hyd y parc atmosfferig – gyda danteithion siocled i’r rhai sy’n cwblhau’r her. Mae yna fwrlwm yn Oriel Plas Glyn y Weddw gydag Arddangosfeydd y Gwanwyn ar eu hanterth a sesiwn gerflunio hwyliog dan arweiniad yr artist Luned Rhys Parri – diwrnod creadigol perffaith ar gyfer yr holl deulu.

Y Canolbarth a Gorllewin Cymru: Yr Aifft, Peiriannau ac Eco-Arbrofion

Gall teuluoedd fwynhau diwrnod gweithgareddau arbennig ar thema palod yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod fel dihangfa arfordirol ddelfrydol, gyda thro creadigol. Mae Amgueddfa Sir Gâr yn cynnal llwybr Pasgffair planhigion a diwrnod hwyl blodau ac arddangosfa ar yr Hen Aifft sy’n dod â dirgelion y gorffennol yn fyw.

Ym Mharc Howard yn Llanelli, mae helfa wyau Pasg ond hefyd arddangosfa “Chwalu Ffiniau” sy’n amlygu llwyddiannau chwaraeon merched Sir Gâr o ddechrau’r 20fed ganrif hyd heddiw. Yn yr Amgueddfa Cyflymder, gall peirianwyr ifanc adeiladu car hunan-symud neu roi cynnig ar archwilio pwll glan môr ar arfordir hardd Sir Gâr. A pheidiwch â cholli’r cyfle i weld “Babs”, y cerbyd eiconig a dorrodd record cyflymder tir y byd.

Yn Amgueddfa Wlân Cymru, mae gwyddoniaeth a chynaliadwyedd yn uno mewn gweithdai sy’n gyfeillgar i deuluoedd sy’n archwilio sut y gellir defnyddio gwlân i adeiladu llwybrau troed. Mae Helfa Basg a parti gwyddoniaeth sbarc yn golygu bod digon i’w wneud – a dysgu.

Yn Aberystwyth, bydd Amgueddfa Ceredigion yn cynnal gweithdy Lego yn yr iaith Gymraeg, gan gynnig cyfle i blant adeiladu eu bydoedd hanesyddol bach eu hunain – cymysgedd delfrydol o hwyl a dychymyg.

Yn Abertawe, mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn cynnig detholiad cyfoethog o weithgareddau Pasg, gan gynnwys clybiau ffilmpaentio ffantasicreadigaethau bydoedd bach, a’u gweithdai tawel, cynhwysol sydd wedi’i cynllunio ar gyfer plant ag anghenion synhwyraidd. Mae Canolfan Dylan Thomas yn dod â straeon yn fyw gyda gweithdai papur blodau gwyllt a barddoniaeth a llwybr losin wedi’i ysbrydoli gan ffefrynnau plentyndod Dylan.

Rownd y gornel, mae’r Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal sioe “Ditectifs Siocled” a “Hwyl y Pasg”.

De Cymru: Marchnadoedd y Gwanwyn a Digwyddiadau Ŵy-a-Sbri y Pasg 

Ym Mharc Treftadaeth y Rhondda, gall teuluoedd gamu i mewn i dwll tanddaearol Cwningen y Pasg, mwynhau reidiau a chrefftau, a chwrdd â ffrindiau blewog ar y fferm anifeiliaid anwes – i gyd yn rhan o Achlysur Ŵy-a-Sbri y Pasg.

Yn Amgueddfa Pontypridd, cynhelir sesiynau crefftau’r Pasg i blant, tra bod Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn cynnig Helfa Basg trwy ei thiroedd awyr agored a’r Farchnad Grefftwyr De Cymru anhygoel. Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae’r hwyl grefftus yn parhau gyda Helfa Basg arall a ffair grefftau Crafty Legs. 

Yn Sir Fynwy, gall teuluoedd fynd i Gastell y Fenni, Amgueddfa Cas-gwent, a Neuadd y Sir ar gyfer sesiynau crefft creadigol y Pasg mewn awyrgylch hardd a hanesyddol.

Enillwch Sgwter! 
Felly beth amdani? Mae’r amgueddfeydd gwych hyn – a llawer mwy – yn cymryd rhan yn Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru eleni! Mae hynny’n meddwl mae’ch tro i amgueddfa leol yn mynd â chi gam yn nes at ennill sgwter newydd sbon.

P’un a yw’ch rhai bach yn ddarpar feirdd, crefftwyr chwilfrydig, cariadon natur neu haneswyr bach, mae rhywbeth i sbarduno eu dychymyg!

Manylion llawn

Ffurflen y gystadleuaeth (Dyddiad cau – 27 Ebrill)