Darganfod, Archwilio, a Chysylltu yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru

24 Hydref 2024 |
Plentyn mewn amgueddfa. Child in a museum.

O ddydd Sadwrn yma, tan 3 Tachwedd, cewch gyfle arbennig i ddarganfod y trysorau cudd sydd ar stepen eich drws wrth i Ŵyl Amgueddfeydd Cymru ddychwelyd! Bydd 46 o amgueddfeydd ar draws Cymru yn cynnal llu o ddigwyddiadau cyffrous, gweithdai ac arddangosfeydd, gan roi’r cyfle i chi a’ch teulu gysylltu â diwylliant a hanes cyfoethog ein cenedl.

Mae amgueddfeydd yn fwy na lleoedd lle mae arteffactau yn cael eu storio; maent yn fannau sy’n dod â hanes yn fyw ac yn cysylltu ni â’n treftadaeth. P’un a ydych yn plymio i mewn i straeon y gorffennol neu’n ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, mae gan amgueddfeydd rywbeth at ddant pawb. A gan fod llawer o’r digwyddiadau yn ystod yr Ŵyl yn rhad ac am ddim, mae’n gyfle perffaith i fwynhau amser gyda’ch teulu.

Ymunwch â Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru

Yn ogystal â’r llu o ddigwyddiadau ar draws 46 amgueddfa, fydd yr Ŵyl yn lansio Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru. Mae’r fenter gyffrous hon yn annog teuluoedd i ymweld ag amgueddfeydd ac i gasglu stampiau yn eu “pasbortau”.

Bydd yr Her Pasbort yn parhau tan ddiwedd Ebrill 2025, gan roi digonedd o amser i chi ymweld â sawl amgueddfa a darganfod hanes anhygoel Cymru. Er nad yw pob amgueddfa yn cymryd rhan yn yr her, bydd pob un o amgueddfeydd yr ŵyl yn cynnig gweithgareddau unigryw wedi’u dylunio i ymgysylltu ac addysgu ymwelwyr o bob oedran.

A dyma’r bonws: os ewch chi i o leiaf un amgueddfa yn ystod hanner tymor, bydd gennych gyfle i ennill pecyn creu cuddfan—ac os ewch chi i chwe amgueddfa erbyn diwedd Ebrill, gallwch ennill sgwter meicro!

Pasbort / Passport

Cefnogwch Amgueddfeydd a Chymunedau Lleol

Nid yn unig y mae ymweld ag amgueddfeydd yn cyfoethogi eich dealltwriaeth o hanes – mae hefyd yn cefnogi cymunedau lleol. Mae amgueddfeydd annibynnol ledled Cymru yn chwarae rhan sylweddol yn yr economi leol, yn aml yn ddarparu cyflogaeth ac yn meithrin ymdeimlad o berthyn. Trwy fynychu Ŵyl Amgueddfeydd Cymru, rydych yn helpu i sicrhau bod y mannau diwylliannol pwysig hyn yn parhau i ffynnu i genedlaethau’r dyfodol.

O berlau lleol bach i sefydliadau cenedlaethol mwy, mae rhywbeth i bawb ei ddarganfod. P’un a ydych â diddordeb mewn hanes morwrol, y Chwyldro Diwydiannol, neu arteffactau hynafol, byddwch yn dod o hyd i amgueddfa sy’n adrodd straeon Cymru mewn ffordd sy’n meddwl rhywbeth i chi.

Felly, wrth i’r dyddiau fynd yn oerach a’r clociau fynd yn ôl, beth am dreulio amser yn un o’r mannau cynnes, croesawgar hyn? Gafaelwch yn eich pasbort, archwiliwch yr hanes o’ch cwmpas, a byddwch yn rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni. Bydd eich ymweliad yn gwneud gwahaniaeth – nid yn unig i chi, ond i’ch cymuned hefyd.

Ar gyfer pob digwyddiad, ewch fan hyn.

Ar gyfer yr her pasbort, ewch fan hyn.