Beth ydych chi wedi’i gynllunio?
Mae ein hamgueddfeydd gwych â digwyddiadau gwych dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi. Mae pob amgueddfa isod yn rhan o Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru, lle gallwch ennill clustffonau a thocynnau Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddiwrnod i’r teulu hyd nes 14 Ebrill.
Cymerwch ran! Ewch i amgueddfa! Dyma ychydig syniadau.
Ar ddydd Sadwrn 2 Mawrth, mwynhewch ddiwrnod o hwyl, llawn crefftau, ac ymunwch â Tudur Phillips am ddawnsio clocsiau cŵl, gemau a mwy! Mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr a Chylch Meithrin Drefach Felindre, mae’r sesiwn gyntaf yn dechrau 10.30am a’r olaf yn dechrau am 2pm.
Yn rhad ac am ddim.
Hefyd ar ddydd Sadwrn 2 Mawrth, bydd Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, yn Abergwili, ynghyd â holl amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin, yn cynnal gweithgareddau galw heibio i deuluoedd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Yn rhad ac am ddim.
Beth am ymweld â arddangosfa Cefyn Burgess, Cwlwm Gwlân? I’w gweld tan 17 Mawrth, dyma gasgliad sydd yn deffro atgofion, yn codi hiraeth ac yn sbarduno trafodaeth am gymdeithas a’r bobl oedd yn ffurfio’r gymdeithas, eu ffordd o fyw, y traddodiadau a’r capeli oedd yn rhan mor bwysig o fywyd cenedlaethau o Gymry a fagwyd mewn cymunedau ledled Cymru.
Yn rhad ac am ddim.
Bydd arddangosfa Robert Havard: Rhondda’n Tanio I’w gweld tan 16 Mawrth, lle mae paentiadau a cherddi yn adlewyrchu ei gilydd, gan fyfyrio ar fywyd yn y cwm a enwir neu yn yr ardal o amgylch Bae Ceredigion, gyda’i gorwelion eang. Yn gain, deheuig a bywiol, mae’r casgliad hwn yn ymgorfforiad o bobl, lleoedd a chymunedau sy’n ein gwahodd i wrando a gweld.
Yn rhad ac am ddim.
Os na allwch fynd i’ch amgueddfa leol, yna dilynwch yr holl weithgareddau bob dydd yn fyw o’r sied wyna yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Ymunwch â’r tîm ar-lein, o 1 tan 22 Mawrth, rhwng 8am ac 8pm, wrth iddynt ddathlu dechrau’r Gwanwyn gyda’u babandod blynyddol.
Yn rhad ac am ddim.
Dydd Gwyl Dewi Hapus!