Ewch Draw i’ch Amgueddfa Leol am Galan Gaeaf Arswydus!

30 Hydref 2024 |

Dal i chwilio am weithgareddau Calan Gaeaf?

Gyda Gŵyl Amgueddfeydd Cymru bellach ar ei hanterth, mae gennym lwyth o weithgareddau a digwyddiadau gwefreiddiol sy’n addas i deuluoedd ledled Cymru hyd at ddiwedd hanner tymor – llawer ohonynt am ddim a lle gallwch chi alw heibio! Mae amgueddfeydd o’r Gogledd i’r De yn cynnal gweithgareddau sy’n olrhain llên gwerin leol a sesiynau a straeon arswydus – perffaith i bob oedran.

P’un a yw’r plantos wrth eu boddau â dreigiau, gwneud lanterni, neu mynd ar helfa Calan Gaeaf, mae antur yn eu disgwyl yn yr amgueddfa leol.

Llyfryn Gweithgareddau Calan Gaeaf Am Ddim

Mae bron pob un amgueddfa sy’n cymryd rhan yn yr Ŵyl â chopïau o’n llyfryn Calan Gaeaf, a ysgrifennwyd gan yr awdur plant Casia Wiliam. Darganfyddwch ein traddodiadau Calan Gaeaf, fel lanterni meipen, mwyar budron, yr ‘Hwch Ddu Gwta’, a ‘Stwmp Naw Rhyw’ a fydd yn diddanu’r plant, tra gallwch chi gael rhyw bum munud i fwynhau arddangosfeydd yr amgueddfa.

Gwyliwch rybudd Casia am bigo mwyar duon ar ôl Calan Gaeaf

Gwiriwch y manylion archebu cyn mynd!

Anturiaethau Gogledd Cymru

  • Llwybr Chwedlau a Llusernau Amgueddfa Penmaenmawr hyd at 1 Tachwedd, yn herio’r ifanc i ddod o hyd i lusernau cudd a hawlio bag nwyddau Calan Gaeaf.
  • Bydd gan Amgueddfa Syr Henry Jones Gelf Calan Gaeaf am ddim gyda Wendy Couling ar 31 Hydref a 1 Tachwedd – am 100% hwyl dewch yn eich gwisg ffansi!
  • Mae Oriel Môn yn cynnig diwrnod crefft hudolus ar 30 Hydref, er dim ond un sesiwn sydd ar ôl (2-3pm) wrth i ni ysgrifennu’r rhestr yma, sy’n canolbwyntio ar wneud mwgwd eich hun!
  • Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy yn dathlu Calan Gaeaf ar 1 Tachwedd gyda sesiynau adrodd straeon a Sesiwn Grefftau Lantenri (gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a chelf planhigion)
  • Bydd Storiel yn cynnal amrywiaeth o sesiynau crefft Calan Gaeaf creadigol rhwng 30 Hydref a 1 Tachwedd gydag Elen Williams a Catrin Williams, gan gynnwys gwneud pypedau
  • Yr Ysgwrn yn cynnig croeso cynnes i wisgwyr ffansi Calan Gaeaf ac yn eich gwahodd i greu coedwig hydrefol i ddathlu Calan Gaeaf yng nghwmni’r artist Nerys Jones ar 30 Hydref.
  • Bydd Carchar Rhuthun yn agor ei ddrysau ar 2 Tachwedd am ddiwedd hanner tymor arswydus  
  • Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell Prifysgol Bangor ar agor i’r cyhoedd ar 2 Tachwedd rhwng 11am a 3pm – digwyddiad prin!

Cyffro’r Canolbarth a Gorllewin Cymru

  • Mae gan Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro lawer o beintio wynebau, gwneud bathodynnau a mwy hyd at 1 Tachwedd (10am-4pm)
  • Mae’r Ganolfan Eifftaidd ar agor tan 1 Tachwedd ac mae ganddi her “Melltith Anubis” ar gyfer plant 6 i 11 oed, lle mae plant yn datrys posau i dorri melltith a osodwyd gan y duw hynafol Eifftaidd Anubis, gan gynnig diwrnod cyffrous ac addysgiadol (£20 y plentyn, y dydd)
  • Mae gan CofGar Sir Gaerfyrddin Raglen Hanner Tymor Calan Gaeaf orlawn yn ei amgueddfeydd, gan gynnwys gweithgareddau arswydus hyd at 3 Tachwedd yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a digwyddiad gwneud ffilmiau a masgiau yn yr Amgueddfa Cyflymder
  • Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod wedi bod yn brysur drwy gydol yr hanner tymor, ac yn cynnal diwrnod cyfan o ddathlu Calan Gaeaf ar 30 Hydref – gallwch alw draw unrhyw bryd i gymryd rhan mewn gweithgareddau
  • Bydd Canolfan Dylan Thomas ar 1 Tachwedd yn cynnal amrywiaeth o weithdai i deuluoedd, un wedi’i gynllunio i fod yn gyfeillgar i blant awtistig a niwrowahanol a sesiwn galw heibio, lle gallwch chi greu swyn arswydus.
  • Bydd Amserwedd Rhaedar Gwy yn cynnal sesiynau dawnsio a chanu o ganol dydd tan 5pm ar 31 Hydref – gwisg Calan Gaeaf yn hanfodol!
  • Bydd gan Amgueddfa Ceredigion lawer o weithgareddau i’ch diddanu, gan gynnwys her lego ar 31 Hydref yn ogystal â Straeon Calan Gaeaf gyda Peter Stevenson ar 1 Tachwedd.
  • Bydd gan Amgueddfa Abertawe weithdy Ystlumod Batty ar 31 Tachwedd – dewch draw!

Sesiynau Sbŵci De Cymru

  • Gall plant Parc Treftadaeth Cwm Rhondda gychwyn ar helfa Calan Gaeaf, hel pwmpenni, a llywio’r hen fwynglawdd, lle mae syrpreis yn aros ym mhob twll a chornel! (£10 i blant sy’n cymryd rhan a £3.50 i oedolion)
  • Mae Castell Cyfarthfa yn berffaith ar gyfer teuluoedd sy’n chwilio am ddiwrnod llawn hwyl gyda chrefftau a gemau hyd at ddiwedd hanner tymor
  • Bydd Amgueddfa Torfaen yn cynnig sesiynau creu lanterni a straeon arswydus ar 1 Tachwedd gyda Tamar Eluned Williams – y sesiynau’n addas ar gyfer 4+ oed
  • Mae gan Amgueddfa Pontypridd gelf a chrefft drwy’r dydd ar 30 Hydref – sesiynau galw draw!

Mae cymaint mwy – edrychwch ar wefan eich amgueddfa leol neu defnyddiwch ein chwiliad