Enillwch docynnau diwrnod teulu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gwerth £50 a chlustffonau gwerth £100!

15 Mawrth 2024 |

Mae’r cyfri lawr ymlaen, gyda llai na mis i fynd i gwblhau Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru! Archwiliwch chwech o amgueddfeydd anhygoel Cymru gyda’ch pasbort, a byddwch â’r chyfle i fagio nid yn unig Tocyn Diwrnod Teulu yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gwerth £50, ond hefyd Clustffonau Di-wifr Beats Studio 3 gwerth dros £100!

Darganfod Treftadaeth Cymru

Dewch i ddatgloi tapestri cyfoethog hanes Cymru wrth i chi deithio drwy ei hamgueddfeydd. Gyda phob ymweliad, byddwch yn darganfod straeon hynod ddiddorol a thrysorau cudd, gan ymgolli yn nhreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Hawliwch Eich Cyfle i Ennill

Ewch i nôl pasbort yn un o’r amgueddfeydd sy’n cymryd rhan a chychwyn ar eich siwrne. Ymwelwch â chwe amgueddfa erbyn 14 Ebrill i fod â chyfle i ennill Tocyn Diwrnod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’ch teulu a Chlustffonau Diwifr Beats Studio 3.

Ble Fydd Eich Taith yn Arwain?

Mae gan Gymru amrywiaeth eang o amgueddfeydd sy’n barod am eich ymweliad! P’un a ydych chi’n hoff o hanes, yn frwd dros gelf, neu’n chwilfrydig am y byd o’ch cwmpas, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.

Ymunwch â’r Antur Heddiw!

Gydag amser yn brin, peidiwch â cholli’ch cyfle i fod yn rhan o’r her gyffrous hon. Cydiwch yn eich pasbort, casglwch eich ffrindiau a’ch teulu, a chychwyn ar daith fythgofiadwy. Unwaith y byddwch wedi bod i chwe amgueddfa sy’n cymryd rhan, llenwch y ffurflen hon:

Manylion llawn yma: https://museumsfestival.wales/cy/pasbort/