Gŵyl Ddraig Rhaeadr

Gŵyl Ddraig Rhaeadr

When

30 Hydref 2024    
10:30 am - 4:00 pm

Where

TimeScape Rhayader
TimeScape Rhayader, Rhayader, Powys, LD6 5ER, Wales
Loading Map....

Dewch i ymweld â CARAD a TimeScape Rhaeadr am ddeuddydd llawn hwyl y Ddraig yr hanner tymor hwn.  Fe allwch ddisgwyl llwybrau o weithgareddau difyr, gweithdai celf a chrefft, lluniaeth a llawer, llawer mwy o gwmpas y dref!

Dros hanner tymor mis Hydref fe fydd CARAD yn agor y drysau ar gyfer cyrchfan newydd i ymwelwyr i ganolbarth Cymru – TimeScape Rhaeadr, ac yn gwahodd ymwelwyr i wneud gweithgreddau amrywiol yn ymwneud â’r ddraig.  Archwiliwch lwybr gweithgaredd y ddraig, gwnewch eich bathodyn draig eich hun a darganfyddwch eich ffawd gan Mystic Marge.  Paratowch ar gyfer Nos Calan Gaeaf gan beintio eich wyneb fel ysbryd, a chrefftiau Calan Gaeaf.  Mae mynediad yn rhad ac am ddim, gyda lluniaeth ar gael.  Yn ystod yr wythnos, fe fydd busnesau Rhaeadr yn cynnig mwy o weithgareddau ar thema’r ddraig ynghyd â hyrwyddiadau.  Rhywbeth at ddant pawb!

26ain o Hydref – 3ydd o Dachwedd

  • llwybr gweithgaredd
  • gwobrau
  • bwyd a diod
  • peintio wyneb
  • crefftiau Calan Gaeaf
  • a llawer, llawer mwy yn digwydd ym musnesau Rhaeadr

Cyd-drefnwyd gan CARAD