Gweithdy Tawel i Deuluoedd: ‘Autumnal Spells’ Cwils crynedig a swynion arswydus

Canolfan Dylan Thomas

When

1 Tachwedd 2024    
10:00 am - 12:00 pm

Where

Canolfan Dylan Thomas
Somerset Place, Abertawe, Wales, SA1 1RR, South west Wales

Event Type

Loading Map....

Mae’r gweithdy hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt ac fe’i cynlluniwyd i fod yn addas i bobl awtistig a niwrowahanol. Fe’i cynhelir mewn partneriaeth â’n ffrindiau yn InclusAbility.

Ymunwch â ni am weithgaredd creadigol ymarferol yn gwneud cwils, dysgu sut i wneud memrwn wedi’i heneiddio a defnyddio’r ddau i greu swyn bwganllyd hudol! Bydd cerddi Dylan Thomas am yr hydref yn ein hysbrydoli hefyd. 

Defnyddir deunyddiau wedi’u hailgylchu, eu hailbwrpasu ac sy’n amgylcheddol gynaliadwy yn ein holl weithdai. Byddwn yn defnyddio plu wedi’u gollwng yn naturiol i wneud y cwils y mae ein ffrindiau yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli wedi bod yn ddigon caredig i’w casglu ar ein cyfer.

    Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.  

Hwyl i deuluoedd â phlant o bob oedran. 

  Gall uchafswm o 24 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre