10 diwrnod i fynd! Hwyl Unigryw i’r Teulu Oll yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru

16 Hydref 2024 |

Mae’r cloc yn tician! Dim ond 10 diwrnod sydd i fynd tan fydd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn cychwyn, gan ddod â dros 40 o amgueddfeydd at ei gilydd mewn amrywiaeth ffantastig o brofiadau ar hyd a lled Cymru.

Mae yna lu o ddigwyddiadau unigryw i’ch diddanu eleni, gyda mwy bob dydd yn cael eu hychwanegu at ein tudalen digwyddiadau. 

Gyda’r ŵyl yn cychwyn ar 26 Hydref, dyma i chi grynodeb sydyn o’r gweithgareddau cyffrous sydd ar gael.

Y Canolbarth

  • Amserwedd Rhaeadr Gwy: mae Gŵyl Ddraig Rhaeadr yn ôl trwy gydol yr hanner tymor. Cynhelir llawer o weithgareddau drwy gydol yr wythnos i’r holl deulu fwynhau.
  • Amgueddfa Ceredigion: Cyfres o weithdai unigryw yn arddangos cerddoriaeth a straeon Calan Gaeaf. Bydd y gweithdy animeiddio, er enghraifft, yn helpu mynychwyr i grefftio byrddau stori, gan ddod â chymeriadau’n fyw, wrth archwilio technegau animeiddio amrywiol.

Gogledd Cymru

  • Amgueddfa Syr Henry Jones: Bydd amrywiaeth o weithdai ar gael – gan gynnwys dau ddiwrnod o weithdai celf, dan arweiniad Wendy Couling, i ysgogi  ysbryd Calan Gaeaf ymysg teuluoedd – mae hwn yn berffaith i deuluoedd sy’n awyddus i gyfuno celf â hwyl arswydus.
  • Amgueddfa Dyffryn Maes Glas: Peidiwch â cholli allan ar y llwybrau brawychus, gwisg ffansi, a disco anghenfil arswydus yr Halloween Horrors – o diddordeb i bawb!
  • Amgueddfa Penmaenmawr: Dilynwch y Llwybr Chwedlau a Llusernau drwy’r dref ac i mewn i’r amgueddfa. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn cyfres o weithdai creadigol a sesiynau crefft.
  • Oriel Môn: Bydd yr awdures leol, Catrin Angharad, yn rhannu straeon a chaneuon Cymraeg yn ystod Hwyl y Gaeaf, gan gynnig profiad hudolus i bawb.
  • Canolfan Ddiwylliant Conwy: Gall teuluoedd fwynhau dau weithdy rhyngweithiol sy’n archwilio Calan Gaeaf drwy weithgareddau dawns a dysgu.
  • Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig: Bydd hanes yn dod yn fyw gyda pherfformiadau ail-greu a gweithgareddau plant yn ystod y digwyddiad ‘Milwyr drwy’r Oesoedd’.
  • Amgueddfa Wrecsam: Diwrnod i’r teulu,  llawn gweithgareddau a digwyddiadau diddorol ar gyfer ymweliad cofiadwy i amgueddfa dros dro Sgwâr y Frenhines.
  • Storiel, Bangor: Y Pethau Bychain fydd yn cyflwyno sesiwn Calan Gaeaf yn arbennig i ymwelwyr ifanc.
  • Yr Ysgwrn: Dewch draw I ddigwyddiadau lle gallwch greu masgiau natur brawychus wedi’u hysbrydoli gan fyd natur a’r Calan Gaeaf.

Y Gorllewin

  • Amgueddfa Doc Penfro: Mwynhewch wythnos o weithgaredd i’r teulu gyda phaentio wynebau, bathodynnau, cwisiau, a chystadlaethau. Peidiwch ag anghofio gwisgo i fyny mewn gwisgoedd y cyfnod!
  • Y Ganolfan Eifftaidd: A fyddwch chi’n gallu datrys posau ac ystafelloedd dianc wrth ddefnyddio deunydd o gasgliadau’r Aifft yn y gyfres hon o weithdai hwyliog ac addysgiadol?
  • Amgueddfa Glynn Vivian:  Bydd ‘Phantoms & Phantasmagoria’ yn sioe oleuadau ar thema Calan Gaeaf a sesiwn chwarae cysgodol werth ei gweld.
  • Sir Gâr, CofGar: Bydd Cartref Dylan Thomas, Amgueddfa Sir Gâr, a Pharc Howard yn cynnal sesiynau adrodd straeon, gweithdai, a gweithgareddau crefft arswydus—pob un yn berffaith ar gyfer Calan Gaeaf!
  • Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod: Bydd parti Cymreig y Calan Gaeaf yn cynnwys cymysgedd o straeon,  digwyddiadau a gweithgareddau traddodiadol.
  • Canolfan Dylan Thomas: Bydd y digwyddiad galw heibio hwn i’r teulu yn edrych ar greu hud a lledrith hydrefol!

De Cymru 

  • Amgueddfa Torfaen: Dewch i ddarganfod hud llên gwerin Cymru gyda straeon a chelf wrth i ni ddathlu diwrnod cyntaf y gaeaf yng Nghymru.
  • Cyfarthfa: Dilynwch y llwybr Calan Gaeaf newydd ac ewch ati i fod yn greadigol gyda chrefftau arswydus, gan ddod o hyd i ffeithiau hanesyddol sydd wedi’i plannu mewn pwmpenni a pannasau!
  • Parc Treftadaeth y Rhondda: Cymerwch ran mewn gweithdy perfformio a gynhelir gan Avant Cymru, lle gallwch ddarganfod traddodiadau Celtaidd Calan Gaeaf, tra’n dysgu sgiliau drama a pherfformio.

Gyda chymaint o ddigwyddiadau eleni, mae rhywbeth at ddant bawb yn ystod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Bydd Her Pasbortau Llwybrau Hanes Cymru hefyd yn ôl, lle gall teuluoedd gael cyfle i archwilio hanes Cymru ac ennill gwobrau gwych. Hefyd yn dychwelyd eleni fydd ein gweithgaredd Calan Gaeaf arbennig, sy’n cynnwys llyfryn am ddim a ysgrifennwyd gan yr awdur plant Casia Wiliam. gyda gemau a phosau.

Peidiwch ag anghofio edrych ar yr amserlen lawn ar ein tudalen digwyddiadau er mwyn dechrau heddiw i gynllunio Llwybr Hanes Cymru eich hun!